Parc arts - Fundamentals course

Treforest-based theatre company HOLM launches Archipelago at Parc Arts.

Every Monday night in February

5th / 12th / 19th / 26th 2024

Have you got a great idea for a performance?

Are you confused about what the next steps are?

Would you like to know how to make a living from your art?

Join multi-award winning Treforest theatre company Holm for a free programme of workshops in self-producing.

With over a decade of experience leading artist development programmes at leading UK Drama Schools and Universities, Holm director Jesse Briton and producer Anthony Kosky lead an engaging and interactive workshop that demystifies arts administration and teaches the basic skills of marketing, communications, budgeting, venue negotiation, contracting and more!

Appropriate for anyone aged 16+, these workshops are designed with the artist in mind - so no *business jargon* and plenty of creative tasks!

Archipelago is our offer to artists whose creative ambitions are frustrated by a lack of opportunities. Titled ‘The Fundamentals’, this workshop is an introduction to the art and science of self-producing and leads on to further workshops on the importance of failure, how we can imagine new production models and ‘audiences’.

Supported by Arts Council Wales and Parc Arts.


Follow Holm on Instagram for more opportunities.

//

HOLM, y cwmni theatr sydd â’i ganolfan yn Nhrefforest yn lansio Archipelago yn Parc Arts.

Bob nos Lun ym mis Chwefror

5ed / 12fed / 19eg / 26ain 2024

Oes gennych chi syniad tan gamp ar gyfer perfformiad?

Ydych chi mewn penbleth o ran beth yw’r camau nesa?

Hoffech chi wybod sut i ennill eich tamaid o’ch celfyddyd?

Dewch at Holm, y cwmni theatr aml ei wobr o Drefforest, i raglen am ddim o weithdai hunangynhyrchu.

A chanddyn nhw dros ddegawd o brofiad yn arwain rhaglenni datblygu artistiaid yn Ysgolion Drama a Phrifysgolion blaenllaw gwledydd Prydain, mae cyfarwyddwr Holm, Jesse Briton, a’r cynhyrchydd Anthony Kosky yn arwain gweithdy difyr a rhyngweithiol sy’n chwalu hud gweinyddu yn y celfyddydau ac yn dysgu medrau sylfaenol marchnata, cyfathrebu, cyllidebu, trafod ag oedfannau, cytundebu a rhagor!

Mae’r gweithdai yma’n addas at bawb un ar bymtheg oed a throsodd ac maen nhw wedi’u llunio gan ddal yr artist mewn cof – felly dim *jargon busnes* a digonedd o dasgau creadigol!

Archipelago yw ein cynnig ni i artistiaid sy’n gweld llesteirio eu huchelgeisiau creadigol gan ddiffyg cyfleoedd. Dan yr enw ‘The Fundamentals’, mae’r gweithdy yma’n rhagarweiniad i gelfyddyd a gwyddor hunangynhyrchu ac mae’n arwain at weithdai pellach ar bwysigrwydd methu, sut y gallwn ni ddychmygu modelau cynhyrchu a ‘chynulleidfaoedd’ newydd.

Cefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Parc Arts.

Dilynwch Holm ar Instagram i weld rhagor o gyfleoedd.

Previous
Previous

The Working Group